Digwyddiadau a Chyrsiau

Tyddyn Teg Home field showing no dig beds with various people working on it

Ein digwyddiadau sydd ar y gweill


Diwrnod Agored Tyddyn Teg! -Awst 19

Estynnwn wahoddiad cynnes i chi i ymuno â ni ar Ddydd Sadwrn Awst 19 yn Nhyddyn Teg ar gyfer diwrnod o deithiau fferm, gweithdai, dangosiadau ffilm, rhannu sgiliau, bwyd gwych a chwmni da!

Pryd: Dydd Sadwrn Awst 19 o 11am-6pm

Beth? Nid yw’r rhaglen yn orffenedig eto ond bydd yn cynnwys:

  • Teithiau fferm gydag aelodau o’n tîm sy’n ehangu – dewch i weld sut y tyfwn ein bwyd!
  • Teithiau safle ar hyd ein coetiroedd a’r nant  – crwydrwch tu hwnt i’r siop a’r fferm i weld y tir a ofalwn amdano er lles bioamrywiaeth!
  • Holi cwestiynau am arddio – dewch â’ch cwestiynau am dyfu llysiau a gwnawn ein gorau glas i’w hateb.
  • Cwestiwn ac ateb Cyfranddaliadau Cymunedol – dewch i ddysgu mwy am ein cynlluniau cyffrous i osod y fferm yn nwylo’r gymuned a sut y gallwch gymryd rhan.
  • Gweithio’n gydweithredol â’n gilydd – dysgwch fwy ynglŷn â’r modd y caiff ein grŵp cydweithredol ei redeg, gan gynnwys gwneud penderfyniadau ar sail consensws a sosiocratiaeth er mwyn rhannu pŵer.
  • Dangosiadau ffilm – nôl yn 2020 crëodd ein ffrindiau hyfryd o’r project ‘Astral Ship’ yn Neiniolen ffilm am ein fferm a’n gofal â’n cysylltiad â’r ddaear o’r enw ‘Beneath Our Feet’. Gwyliwch ffilm Tyddyn Teg ar y sgrîn fawr!
  • Panad a Sgwrs – Rydym yn dysgu Cymraeg, dewch i ymarfer neu ddysgu gyda ni dros banad.

Rhannu sgiliau – Rydym yn awyddus i gynnig gofod ar gyfer rhannu pob math o sgiliau ymarferol ar gyfer gweithio gyda’r tir a’i gynnyrch. Oes gyda chi syniad ar gyfer gweithdy yr hoffech ei arwain? Cysylltwch â ni!

Dweud eich dweud! Oes rhywbeth penodol y byddech yn hoffi ei weld ar y rhaglen neu bethau yr hoffech ei dysgu oddi wrth ein tîm? Anfonwch neges atom i ni gael gweld beth sy’n bosib!

Bwyd – ni fyddai’n Ddiwrnod Agored yn Nhyddyn Teg heb llwyth o gynnyrch blasus o’r tir yn cael ei gynnig! Bydd gennym wledd o ddiodydd, byrbrydau a gogoniannau llysieuol ar gael ar sail talwch-beth-hoffwch-chi. Dewch i rannu bwyd a chwrdd â phobl o’r un anian! Mae croeso i chi ddod â’ch picnic eich hun os oes gwell gennych.

Cerddoriaeth – rydym yn gobeithio trefnu sesiwn meic agored/jamio yn y prynhawn. Ydych chi’n chwarae offeryn neu eisiau rhannu cân neu gerdd? Dewch â nhw!

Gan obeithio gweld eich wynebau hapus yn Nhyddyn Teg


Digwyddiadau sydd gan eraill ar y gweill

Rydym wrth ein boddau yn rhannu digwyddiadau grwpiau eraill sy’n rhannu’r un gwerthoedd â ni. Cadwch lygad am ddigwyddiadau sydd ar y gorwel!


Tecsilliau Logo

Tecstilau

Cymrwch olwg ar ba ddigwyddiadau sydd ar y gweill gan Tecstiliau, Bethel, trwy glicio yma.

Grŵp tecstilau ym Methel yw Tecstiliau, ac maent yn ymroddedig i greu cymuned decstilau yng Nghymru. Maent yn cynnal digwyddiadau rheolaidd sy’n addas i ddechreuwyr ac unigolion profiadol fel ei gilydd, felly dysgwch amdanynt er mwyn ymuno!

“Mae Tecstiliau yn fudiad nid-er-elw a sefydlwyd gan grŵp bychan â diddordeb mewn hwyluso’r celfyddydau tecstiliol fel rhan o etifeddiaeth ddiwylliannol Cymru. Trwy wneud hynny, ein nod yw darparu ‘gofod’ ffisegol ar gyfer gweithgareddau tecstilau ond hefyd i greu ‘gofod’ diwylliannol i bwysleisio pwysigrwydd y celfyddydau tecstiliol yng Nghymru, er budd diwylliant a llesiant personol.”