Cydweithredfa Tyddyn Teg – Pwy ydym ni?
Rydym yn tyfu cynnyrch ffres a thymhorol trwy gydol y flwyddyn er mwyn cynnal cynllun bocsys llysiau, yn ogystal â chadw ein siop ym Methel yn llawn i gwsmeriaid sy’n galw heibio.
Rydym yn tyfu ystod eang o lysiau yn ôl yr hyn a ganiateir gan y tymhorau cyfnewidiol, o fresych gwynion i foron o domatos! Rydym wrth ein boddau gyda sut mae bwyta yn ôl y tymhorau yn cynnal ein cyswllt â’r tir yr ydym yn byw arno.
Ein prif nod yw parhau i wella mynediad at lysiau ffres yn ein cymuned leol. Rydym eisiau parhau i ehangu a gwella ein gwaith o dyfu llysiau er mwyn cynyddu’r nifer o bobl y gallwn ddarparu llysiau ar eu cyfer, tra hefyd yn cadw’r pridd o dan ein traed yn iach!
Rydym hefyd yn ymroddedig i:
● Ddatblygu gofod cymunedol i gynnal digwyddiadau
● Talu cyflog byw i’n holl aelodau
● Gwella gallu’r holl aelodau i ddefnyddio’r Gymraeg
● Datblygu cynnig cyfranddaliadau tir cymunedol fel bod y tir yn parhau i
wasanaethu’r gymuned
Ein Mudiad
Mae’r diolch am y cyfle anhygoel sydd gennym yn ddyledus i Pippa a John Evens, a adeiladodd fusnes llysiau lleol arbennig dros gyfnod o 20 mlynedd. Wrth iddynt ymddeol, bu iddynt basio’r awenau i’r hyn a elwir heddiw’n gydweithredfa Tyddyn Teg. Rydym yn falch o fod yn tyfu llysiau ffres ar gyfer ein cymuned leol!
Mae Tyddyn Teg bellach yn gweithredu fel cydweithredfa weithwyr, sy’n golygu fod yr holl aelodau â’r un lefel o gyfrifoldeb â’i gilydd. Mae hyn yn ein helpu i gynnal y busnes fel amgylchedd lle mae cymuned yn ganolog; un sy’n gofalu am ei weithwyr, y gymuned leol, a’r tir.
Erbyn hyn, mae gan gydweithredfa Tyddyn Teg unarddeg o aelodau, ynghyd â chymorth yn aml gan hyfforddeion a gwirfoddolwyr hyfryd. Rydym yn rhannu ymroddiad i bwysigrwydd bwyd lleol o ansawdd uchel, a’r heriau’n ymwneud â chynaliadwyedd yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae ein 11 aelod talentog yn dod o gefndiroedd amrywiol er mwyn cadw persbectif cytbwys. Darllenwch fwy am yr aelodau yma.
Rydym yn gweld ein hunain fel rhan o deulu byd-eang o ffermwyr bychain, a’n huchelgais yw dod yn ganolfan ymarferol ar gyfer ymchwil ac addysg ym maes cynhyrchu bwyd lleol cynaliadwy.
Rydym wedi diweddaru ein polisi preifatrwydd. Er mwyn ei ddarllen, cliciwch yma.