Cyfanwerthu

Cyfanwerthu


Mae ein gwasanaeth cyfanwerthu ar gau ar hyn o bryd. Bydd yn ailagor
oddeutu Mehefin-Gorffennaf. Cysylltwch â wholesale@tyddynteg.com os
oes gennych ddiddordeb mewn archebion cyfanwerthu.


Ydych chi’n siop neu fusnes arlwyo lleol? Rydym yn cynnig ein llysiau am bris gostyngedig
ar gyfer archebion o £30 neu fyw. Rydym yn pecynnu eich archebion i’w casglu o Dyddyn
Teg. Fel arall, rydym yn cynnig danfon cynnyrch atoch am £1/milltir ychwanegol, neu am
ddim ar gyfer archebion dros £100.

Wrth mai fferm fechan ydym, gyda llysiau tymhorol sy’n newid yn gyson, rydym yn anfon ein
rhestrau cyfanwerthu at bawb sydd â diddordeb bob dydd Llun, ar gyfer danfoniad neu
gasgliad yr wythnos ganlynol.

Rydym yn cynaeafu ar ddyddiau Mercher a dyddiau Gwener, felly gellir casglu archebion
rhwng pnawn dydd Mercher a dydd Sul. Mae’n bosib y bydd modd gwneud trefniadau
gwahanol ar gais.

E-bostiwch wholesale@tyddynteg.com gyda’ch ymholiadau neu am fwy o wybodaeth.

Edrychwn ymlaen at gydweithio â chi!