Polisi Preifatrwydd

Polisi Preifatrwydd Tyddyn Teg Chwefror 2022

Y data a gesglir gennym

Cwsmeriaid y cynllun, cwsmeriaid cyfanwerthu a chyn-gwsmeriaid sydd mewn dyled i ni

Rydym yn cadw’r wybodaeth a ganlyn:

● Manylion cyswllt yr ydych wedi eu rhannu â ni gan gynnwys enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn a chyfeiriad.
● Cofnod o ba bryd y bu i chi ymuno a gadael y cynllun; y taliadau a dderbyniwyd gennych; ac unrhyw arian sy’n ddyledus.
● Unrhyw ohebiaeth e-bost.

Cyn-gwsmeriaid eraill
● Mae ein banc yn cofnodi’r taliadau a wnaed gennych trwy drosglwyddiad banc, ac mae’r wybodaeth honno’n aros wedi i chi ymadael â’r cynllun.
● Os ydych wedi rhoi gwybod i ni eich bod yn fodlon i ni gadw eich manylion cyswllt, byddwn yn cadw eich enw, eich rhif ffôn a’ch cyfeiriad e-bost.
● Mae gennym hefyd gofnod o ohebiaeth e-bost.

Pobl eraill ar ein rhestr bostio
Os ydych wedi gofyn i ni gysylltu â chi yn y dyfodol; wedi cydsynio i fod ar ein rhestr bostio; ac/neu wedi cydsynio i ni gadw eich manylion cyswllt, byddwn yn cadw’r wybodaeth a ddarparwyd gennych, all gynnwys eich enw, eich cyfeiriad e-bost, eich rhif ffôn, neu’ch cyfeiriad.

Bydd gennym hefyd gofnod o ohebiaeth e-bost â’r sawl y bu i ni rannu gohebiaeth o’r fath.

Pam ein bod yn cadw eich manylion?

Y prif reswm dros gadw eich manylion cyswllt yw sicrhau eich bod yn talu’r pris cywir am ein
llysiau fel ein bod yn cadw at ddwy ochr y ddêl. Yn benodol, mae angen y wybodaeth hon
arnom er mwyn:

● Eich hysbysu pan fydd newidiadau i’r cynllun, yn enwedig pan fydd angen i chi newid eich archeb sefydlog.

● Dweud wrthoch chi os ydych wedi methu canslo eich archeb sefydlog wedi i chi ymadael â’r cynllun.

● Rhoi gwybod i chi os ydych wedi methu diwygio eich archeb sefydlog yn dilyn newid pris.

● Cysylltu os down i wybod eich bod wedi talu gormod.

● Eich hysbysu os oes arnoch arian i ni ac adfer unrhyw arian sy’n ddyledus i ni.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newyddion o’r fferm y credwn y bydd o ddiddordeb i chi ac unrhyw ddigwyddiadau a gynhelir gennym yr hoffem eich gwahodd iddynt. Gall cwsmeriaid a rhai nad ydynt yn gwsmeriaid ddewis peidio derbyn gohebiaeth am y pethau hyn os dymunir.

Rydym yn cadw e-byst at ddibenion unrhyw ymholiad neu anghydfod allai godi yn y dyfodol.

Rhannu eich manylion

Ni fyddwn yn gwerthu eich data i unrhyw un nac yn ei rannu â sefydliadau neu unigolion eraill fel y gallant farchnata i chi.

Fodd bynnag, er mwyn rhedeg ein busnes mewn modd effeithiol, mae angen i ni ddefnyddio rhai platfformau trydydd parti, ac rydym yn credu y dylech fod yn ymwybodol o’r rhain:

● Lletyir ein cyfrif e-bost gan Google, ac felly gall gwybodaeth a rannwch gyda ni dros e-bost fod ar gael iddynt. Gallwch ddarllen polisi preifatrwydd Google yma: https://policies.google.com/privacy?hl=en-GB&gl=uk

● Rydym yn bancio gyda Santander ac felly bydd ganddynt fynediad at wybodaeth sydd wedi’i gynnwys mewn trosglwyddiadau banc a dderbyniwn gennych. Gallwch ddarllen polisi preifatrwydd Santander yma: https://www.santander.co.uk/uk/help-support/security-centre/data-protection

● Rydym yn defnyddio Xero ar gyfer ein cofnodion cyfrifo a thaliadau siop, manylion cwsmeriaid a chyflenwyr, a chopïau o dderbynebau, biliau ac anfonebau. Gellir darllen polisi preifatrwydd Xero yma: https://www.xero.com/uk/about/privacy

● Mae angen i ni gyflwyno ein cyfrifon blynyddol i Dŷ’r Cwmnïau. I gynorthwyo â hyn, rydym ar hyn o bryd yn derbyn gwasanaeth gan Gyfrifwyr Hughes, Jones, Dyson, sy’n golygu ein bod yn rhoi mynediad iddynt at y wybodaeth ar Xero. Gallwch gael mynediad at eu polisi preifatrwydd ar gais trwy e-bostio info@hughesjonesdyson.co.uk

● Rydym wedi defnyddio Cyfrifwyr GPG yn y gorffennol, a gallwch ddod o hyd i’w manylion yma: http://www.gpgaccountants.co.uk/website/privacy

● Lletyir ein gwefan gan WordPress. Gallwch ddarllen eu polisi preifatrwydd yma: https://en-gb.wordpress.org/about/privacy/

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich manylion?

Ni fyddwn yn defnyddio a chadw eich gwybodaeth am gyfnod hirach na’r hyn sydd ei angen at y dibenion y’i casglwyd ar eu cyfer. Os nad ydych yn ymgysylltu â ni am hyd at chwe blynedd, byddwn yn tynnu eich manylion cyswllt o’r system.

Bydd hyd y cyfnod o amser y caiff y manylion eu cadw yn dibynnu ar y wybodaeth dan sylw, at ba ddiben y caiff ei ddefnyddio ac, weithiau, gofynion cyfreithiol statudol.

Sut i newid, dileu neu wirio eich manylion a gedwir gennym

● Gallwch hefyd roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i’ch manylion cyswllt trwy e-bostio info@tyddynteg.com.

● Os ydych yn dewis peidio derbyn ein gohebiaeth ar unrhyw adeg, byddwn yn dileu eich manylion cyswllt, gan gofnodi’r cais hwn yn ein cronfa ddata. Bydd hyn yn sicrhau nad ydych yn derbyn unrhyw gyfathrebiadau pellach gennym.

● Mae gennych yr hawl i gael eich ‘anghofio’. Ystyr hyn yw y byddwn yn tynnu’r holl ddata amdanoch a gedwir ar ein system os nad ydych bellach yn gwsmer ac nad oes arnoch ddyled i ni, oni bai ei bod yn ofynnol i ni gadw’r manylion hynny am resymau cyfreithiol statudol.

● Yn unol â Deddf Diogelu Data 1998 a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (mewn grym ers 25 Mai 2018) gallwch wneud cais am adroddiad sy’n manylu ar y wybodaeth a gedwir gennym amdanoch. Er mwyn derbyn adroddiad, e-bostiwch ni: info@tyddynteg.com. Byddwn yn ymateb i bob ymholiad o fewn mis. Os hoffech i ni wneud hyn, anfonwch y wybodaeth a ganlyn atom: Eich enw llawn a’ch manylion cyswllt, eich perthynas â Thyddyn Teg, a chopi o ddull adnabod (ID).

Gallwch hefyd gysylltu â ni am unrhyw ran o’r uchod trwy ffonio 07599 813777; neu ysgrifennu atom neu ymweld â ni yn Nhyddyn Teg, Tyddyn Berth, Bethel, Caernarfon, LL55 3PS.