Mae Tyddyn Teg wedi lansio ein cynnig Cyfranddaliadau Cymunedol!
Darllenwch amdano ar y dudalen hon neu sgroliwch i’r gwaelod i weld ein fideo. Cliciwch Fan Hyn er mwyn Buddsoddi yn nyfodol bwyd lleol! Gallwch hefyd Fuddsoddi oddi ar y wê – er mwyn gwneud hynny neu er mwyn derbyn unrhyw un o’n dogfennau cynnig cyfranddaliadau ar bapur cysylltwch â ni ar info@tyddynteg.com
Pwy ydym ni a beth yw ein gweledigaeth?
Mae ystyr yr enw Tyddyn Teg wrth galon pwy ydym ni. Rydym am drin ein gweithwyr, ein cymuned a’n amgylchedd naturiol yn deg, rŵan a thros genedlaethau’r dyfodol.
Gwytnwch Bwyd, Gwytnwch Lleol
Mewn byd ansicr lle mae system fwyd global iawn yn dibynnu ar gadwyni cyflenwi hir a chymhleth, mae cynyddu faint o fwyd lleol sydd ar gael yn cefnogi sicrwydd bwyd ein cymuned. Bu i ni weld hyn yn ystod y pandemig COVID, wrth i silffoedd yr archfarchnadoedd wagio tra bod ein siop ni’n doreithiog, ac rydym yn gweld hyn eto gyda’r argyfwng Costau Byw. Yng Nghymru, mae gennym y sgiliau a’r tir i greu dyfodol llewyrchus i’r rhai ddaw ar ein holau, ac yn Nhyddyn Teg rydym am chwarae ein rhan yn hyn trwy fwydo ein cymuned leol a rhannu ein gwybodaeth a’n sgiliau.
Lle i Fyd Natur
Yn Nhyddyn Teg credwn nad oes yn rhaid i dyfu bwyd da gostio’r ddaear – gallwn fod â fferm hynod gynhyrchiol AC edrych ar ôl byd natur. Rydym yn gwneud hyn trwy ddefnyddio dulliau ffermio adfywiol nad ydynt yn dibynnu ar agrogemegau gwenwynig,
trwy blannu coed a gofalu am goetiroedd sy’n gartref i filoedd o adar a phryfed, ac yn fwy na dim, trwy edrych ar ôl ein priddoedd gwerthfawr a’r holl fywyd sydd o’u mewn. Dywed gwyddonwyr ein bod yn byw trwy gyfnod y chweched difodiant mawr, ac mae ffactor sylweddol sy’n cyfrannu at hyn yw ffermio ar raddfa ddiwydiannol. Rydym ni eisiau helpu i wneud iawn am hyn wrth ffermio trwy ddull sy’n cynyddu amrywiaeth y bywyd a gynhelir ar ein tir.
Wynebu Newid Hinsawdd
Rydym yn gwybod beth sy’n digwydd ac rydym yn teimlo’n ddi-rym i’w atal. Yr hyn sy’n amlwg i ni yw bod ffermio heb gemegau yn well i’r hinsawdd na ffermio gyda chemegau gan fod agrogemegau yn defnyddio llawer o ynni i’w cynhyrchu ac yn gwenwyno bywyd gwyllt. Mae lleihau milltiroedd bwyd hefyd yn lleihau allyriadau carbon. Wrth i’r tymhorau fynd yn gynyddol anrhagweladwy, rydym
yn gweithio’n galed i sicrhau y gallwn barhau i gynhyrchu mwy o fwyd drwy gydol y flwyddyn trwy amrywio ein cnydau, diweddaru ein hisadeiledd a chynyddu ein hardaloedd tyfu gwarchodedig; yn ogystal â phlannu miloedd o goed i amddiffyn ein pridd a chloi carbon.
Tir i bawb
Mae bodau dynol yn rhan o’r ecosystem a dylem fod â’r hawl i grwydro’r dirwedd a mwynhau gofodau naturiol, ond ym Mhrydain mae cyfyngiadau difrifol ar hyn gan fod perchnogaeth tir wedi’i grynhoi i nifer rhy fach o ddwylo. Rydym am sicrhau fod pobl yn teimlo fod croeso iddynt grwydro ein tir ac rydym yn gwella ein llwybrau a’n harwyddion fel y gall pobl fwynhau’r coetiroedd hardd a’r nant, yn ogystal â chysylltu â’r pentrefi a’r llwybrau cerdded lleol. Mae’r tir yno i bawb.
Sut caiff yr arian ei ddefnyddio?
Ein gobaith yw codi £400,000: dyma swm fydd nid yn unig yn trosglwyddo perchnogaeth y tir a’r busnes i’r gymuned, ond a fydd hefyd yn ein galluogi i ddiweddaru ein cyfleusterau fel y gallwn weithredu’n well fel cydweithredfa a fferm gymunedol. Bydd hyn yn cynnwys gwneud traciau tyllog yn fwy diogel, adeiladu swyddfa a thoiled hygyrch i gwsmeriaid ar y safle, creu buarth newydd, ehangu’r maes parcio a diweddaru traciau a llwybrau tramwy cyhoeddus sy’n croesi neu sy’n gyfagos â’r fferm.
Gweler ein Cynllun Busnes am rhagor o fanylion.
Beth gaf fi trwy fuddsoddi?
Rhagfynegir y bydd y gyfradd llog ar gyfranddaliadau yn 3%, a delir yn flynyddol o flwyddyn gyntaf eich buddsoddiad ac a fydd yn cronni yn eich cyfrif cyfranddaliadau, gan gynyddu’r swm y gallwch ei dynnu allan yn y pen draw. Bwriadwn ganiatáu i arian gael ei dynnu allan ar ôl tair blynedd, ar sail y cyntaf i’r felin. Y lleiafswm y gellir ei fuddsoddi yw £100.
Os byddwch yn buddsoddi, byddwch hefyd yn dod yn aelod o Dyddyn Teg gyda’r hawl i fynychu ein CCB, ethol cynrychiolwyr i weithio gyda ni ar brosiectau cydsafiad cymunedol a dal aelod-weithwyr yn gyfrifol am gyflawni amcanion Tyddyn Teg fel y’u nodir yn ein Siarter.
Gweler ein Dogfen Cynnig Cyfranddaliadau am fwy o fanylion.
Cydsafiad Cymunedol er mwyn creu Dyfodol Tecach
Fel buddsoddwr, gallwch ddewis rhoi’r cyfan, hanner, neu ddim o’r llog sy’n ddyledus i chi yn ein Cronfa Cydsafiad Cymunedol, a gyd-reolir gan weithwyr a buddsoddwyr i gyflawni prosiectau sy’n cryfhau sofraniaeth bwyd yn lleol ac yn fyd-eang. Yn benodol, byddwn yn defnyddio’r gronfa hon i ariannu aelodaeth y cynllun llysiau i deuluoedd sy’n wynebu trafferthion ariannol ac na fyddai modd iddynt gael mynediad ato fel arall, yn ogystal â chynnal digwyddiadau cymunedol sy’n dod â phobl at ei gilydd i ddysgu a rhannu.