Ein Cynllun Bocsys Llysiau

Enghraifft o focs llysiau sylfaenol.
Mae gennym focsys llysiau o tri faint er mwyn bodloni’r anghenion amrywiol sydd gan bobl. Yn ystod y prif dymor tyfu (Mehefin-Rhagfyr) caiff holl gynnyrch y cynllun ei dyfu gennym ni ar y safle. Yn ystod gweddill y flwyddyn, byddwn yn ychwanegu llysiau organig
ychwanegol trwy Organic North. Mae bod yn rhan o’n cynllun yn rhoi gostyngiad o 20-50% i chi trwy gydol y flwyddyn!
Bocs Lite: £10.20/wythnos am 6-7 eitem yr wythnos (dim tatws a nionod)
Bocs Sylfaenol: £11.50/wythnos am 8-9 eitem yr wythnos
Bocs Mawr: £17.37/wythnos am 11-13 eitem yr wythnos, gyda thatws a nionod ychwanegol ac eitemau eraill
Ni allwn gynnig y prisiau gostyngedig hyn oni bai am sicrwydd criw sefydlog o gwsmeriaid yn gefn i ni. Oherwydd hyn, dim ond trwy ymuno am fis o leiaf y gallwch fanteisio ar y prisiau
hyn. Mae’r prisiau yn cael eu cyfrifo ar gyfartaledd ar gyfer y flwyddyn, sy’n golygu mai £40.80, £46, a £69.50 y mis yw prisiau ein bocsys.
Mae bron pob bocs yn cynnwys tatws a nionod. Byddai enghraifft o focs wythnosol arferol yn cynnwys: cennin, ciwcymbrau, cêl, tomatos, pupurau gwyrdd a letys. Byddai bocs Mawr yn cynnwys tatws, nionod, tomatos a chennin ychwanegol, yn ogystal â chorbwmpenni, blodfresych a tsilis ar ben hynny.
Cliciwch yma i ymuno â’n cynllun
Ein siop
Rydym ar agor i bobl alw heibio a defnyddio ein siop hunanwasanaeth rhwng dydd Iau a dydd Llun. Ar ben yr hyn sydd ar gael trwy’r cynllun ar gyfer yr wythnos honno, mae gennym lawer o lysiau blasus eraill ar werth. Rydym hefyd yn cael eitemau ychwanegol amrywiol gan ein cyflenwyr, felly mae gennym ffrwythau bob amser, yn ogystal â llawer o nwyddau eraill megis wyau, mêl, caws a chynnyrch sych.
Mae’r siop yn un hunanwasanaeth, a gallwch dalu gydag arian parod neu gerdyn.
Ein Llysiau
Rydym yn ymroddedig i gyflenwi cynhwysion deiet ffres, iachus ac amrywiol i’n cwsmeriaid. O ganlyniad, rydym yn tyfu cymaint o lysiau gwahanol ag y gallwn trwy ddull organig, ar y caeau ac mewn twneli tyfu. Mae ein siop yn llawn llysiau bob mis o’r flwyddyn! Ni allem wneud hynny oni bai am ymroddiad ein cwsmeriaid, yn enwedig y rhai hynny sy’n aelodau o’r cynllun ac yn prynu ein llysiau bob wythnos.
Cliciwch yma i ddarllen ein polisi tyfu
Ein Cyflenwyr
Mae gennym gyflenwyr anhygoel sy’n ein cyflenwi â ffrwythau, llysiau, wyau a nwyddau sych ychwanegol. Mae’n holl gyflenwyr yn tyfu bwyd organig, neu yn fusnes bach lleol sy’n rhannu ein gwerthoedd o ran ffermio cynaliadwy. Mae’n bwysig i ni ein bod yn adeiladu rhwydwaith o fusnesau bach lleol sy’n medru cyflenwi bwyd i’w cymuned. Os hoffech ddarllen mwy am ein cyflenwyr gwych, cliciwch yma.