Ein Cyflenwyr
Rydym yn cydweithio â chyflenwyr anhygoel sy’n ein cyflenwi â ffrwythau, llysiau, cynnyrch
llaeth a nwyddau sych ychwanegol.
Henbant:
Rydym yn stocio wyau ieir Henbant, sy’n cael eu cynhyrchu ar borfa a bwyd organig, yn
ogystal â llysiau ffres godidog o’u gerddi dim-palu yn achlysurol.
“Rydym yn defnyddio dulliau Paramaethu, Rheolaeth Holistaidd ac Agroecoleg i dyfu llysiau, cig, wyau a llaeth, ond ar raddfa ddynol fechan ac adfywiol sy’n cyflenwi bwyd a thanwydd i’n cartref, ein hymwelwyr a’n cymuned leol.
Yn ogystal â bod yn gynhyrchiol, mae Henbant yn fan lle gall pobl ddod yma ac arafu am gyfnod, i feddwl am yr hyn sy’n bwysig yn y byd a’r hyn y mae angen i ni ei roi ’nôl.”
Cliciwch yma i ddysgu mwy am Henbant
Tyfu Eryri
Rydym yn stocio microlysiau blasus Tyfu Eryri.
“Wedi’n sefydlu yn 2021, rydym yn fusnes bach deinamig sy’n rhoi tro ar ddulliau tyfu
newydd ac yn ‘dysgu trwy wneud’ yng ngwir ystyr hynny. Mae Tyfu Eryri yn fferm fertigol dan do ar raddfa fechan. Mae’n ddull tyfu cyffrous ond heriol, ac mae’r gymysgfa o gnydau yn newid ac yn tyfu’n barhaus wrth i ni roi tro ar bethau newydd. Rydym yn fusnes teuluol gyda pheth cymorth gan wirfoddolwyr”
I ddysgu mwy am Tyfu Eryri e-bostiwch tyfueryri@gmail.com neu cliciwch yma i’w cyrraedd ar eu cyfrif Instagram
Fferm Pandy:
Yn dymhorol, byddwn yn stocio amrywiaeth o ffrwythau gan gynnwys gwsberins, cyrains
duon a chyrains cochion, mafon a llus o Fferm Pandy.
“Rydym yn fenter fechan gyda phwyslais cymunedol sy’n cynhyrchu ffrwythau a llysiau wedi’u tyfu trwy ddull naturiol. Mae’n gwerthoedd craidd yn cynnwys cynaliadwyedd cymdeithas ac amgylcheddol. Rydym mewn cysylltiad â mentrau lleol eraill sydd â gwerthoedd tebyg ac yn gweld ein hunain fel rhan annatod o’n cymuned yng Ngogledd Cymru, wrth i ni ddarparu cynnyrch iachus, lleol a helpu i fynd i’r afael â materion tlodi bwyd yn ardal Bangor.”
Cliciwch yma i ddysgu mwy am Fferm Pandy
Cosyn Cymru:
Rydym yn stocio iogwrt a chawsiau gwych Cosyn Cymru.
“Mae Carrie yn cynhyrchu ei nwyddau llaeth defaid â llaw mewn sypiau bychain gan
ddefnyddio cynhwysion naturiol a dulliau traddodiadol. Wrth iddi weithio ar fferm fynydd Gymreig, nod Carrie yw cynhyrchu caws, iogwrt a hufen iâ sy’n denu’r gorau o’r llaeth. Mae’n frwd o blaid addasu yn ôl tro’r tymhorau – mae angen dull unigryw o fynd ati i greu pob swp.”
Cliciwch yma i ddysgu mwy am Cosyn Cymru
Pen y Bonc:
Rydym yn stocio mêl blasus arbennig Pen y Bonc, a gesglir yn ofalus o gychod gwenyn
Jonothan Garrat a Lisa Mundle ym Mangor. Rydym hefyd yn stocio eu ffrwythau meddal,
megis mafon a chyrains, pan fo’r rheiny yn dymhorol!
I gysylltu rhowch ganiad ar 01248361576
Propolise:
Rydym yn stocio elïau croen hyfryd Propolise.
“Mae Propolise yn creu elïau croen unigryw trwy ddefnyddio cynnyrch gwenyn mêl lleol, cynhenid a Chymreig. Mae’r elïau yn 100% naturiol ac o ansawdd uchel er mwyn helpu gydag ystod o anhwylderau croen. Rydym yn defnyddio 100% olewau organig ochr yn ochr â chynnyrchu gwenyn mêl lleol, gan ein gwenyn ein hunain ac eraill a gedwir ledled Gwynedd.”
I ddysgu mwy am Propolise cliciwch yma neu gysylltu â Frankie trwy e-bostio iafrati@propolise.co.uk
Organic North:
Rydym yn stocio ffrwythau ac ystod o lysiau organig fel cynnyrch ychwanegol gan Organic North. Mae hyn yn caniatáu i ni barhau gyda’n cynllun trwy gydol y flwyddyn, hyd yn oed pan fydd gennym lai o eitemau dros gyfnod y ‘blwch llwglyd’.
“Rydym yn gydweithredfa dan arweiniad aelodau, a ni yw’r cyfanwerthwyr mwyaf a hiraf eu hoedl o ran cynnyrch organig ardystiedig yn rhanbarth y gogledd. Ein nod yw trwsio ein system fwyd doredig, wastraffus, sy’n allyru llygredd. Rydym wedi bod yn ffodus o gael perthynas agos â rhai o’n ffermwyr ers dros 25 mlynedd ac dyma sydd wedi galluogi i ni fod yn gyson wrth gyflenwi groseriaid, cynlluniau bocsys llysiau, proseswyr bwyd,
cydweithredfeydd prynwyr a llawer mwy yn y DU â ffrwythau a llysiau organig wythnosol.”