Fferm fechan yw Tyddyn Teg, sef y rheswm nad yw wedi’i chofrestru’n organig ar hyn o bryd; mae cost sylweddol ynghlwm â hynny o ran arian ac amser sydd ei angen arnom i ffermio. Golyga hyn nad oes gennym yr hawl i alw ein llysiau yn organig – fodd bynnag, rydym yn tyfu yn ôl egwyddorion adfywiol, gyda phwyslais ar gynaliadwyedd. Rydym yn defnyddio’r canllawiau organig sydd wedi’u gosod, ac mae ein harferion yr un fath yn union â’r rhai ardystiedig, i bob pwrpas.
Gan fod ffermio cynaliadwy yn bwysig iawn i ni, rydym am osod y seiliau i eraill ddeall ein hegwyddorion a sut a pham yr ydym yn tyfu cnydau trwy’r dulliau hyn. Er mwyn darllen pam fod tyfu adfywiol yn bwysig, rydym yn argymell i chi gael golwg ar wefan Cymdeithas y Pridd (The Soil Association). Cliciwch yma i ddysgu mwy.
At ddibenion tryloywder, rydym wedi nodi’r ychydig addasiadau a wnawn i’r pridd bob hyn a hyn isod. Gallwch weld fod yr holl addasiadau a nodir isod yn cael eu cymeradwyo o fewn system organig ardystiedig.
● Plaladdwyr, Chwynladdwyr a Ffwngladdwyr
Yn unol ag arferion organig safonol, nid ydym yn defnyddio unrhyw blaladdwyr, ffwngladdwyr neu chwynladdwyr synthetig. Weithiau, byddwn yn defnyddio plaladdwyr/ffwngladdwyr naturiol sydd wedi’u cymeradwyo i’w defnyddio mewn systemau organig i wrthsefyll achosion o bryfed neu glefydau penodol, gan amlaf ar blanhigion ifanc iawn ymhell cyn eu cynaeafu. Er enghraifft:
● Daliant olew neem i drin clefydau ffwngaidd amrywiol a lladd pryfed gleision ar blanhigion ifanc yn y feithrinfa a rhai o gnydau’r twnnel tyfu.
● Nematodau Phasmarhabditis hermaphrodita (“Nemaslug”) i reoli gwlithod yn y twnelau tyfu o bryd i’w gilydd.
● Peledi gwlithod ffosffad fferrig (organig) i reoli gwlithod yn y twnelau tyfu o bryd i’w gilydd.
● Rydym yn gofalu ein bod yn annog bioamrywiaeth ble bo hynny’n bosib yn hytrach na dulliau rheoli eraill – megis annog llyffantod fel dull o reoli gwlithod
● Gwrteithiau a Gwelliannau Pridd
Mae Tyddyn Teg yn defnyddio cyfuniad o gnydau gwrtaith gwyrdd i wella ffrwythlondeb y pridd, tail gwartheg o fferm (anorganig) gyfagos, compost gwastraff gwyrdd o gyfleuster compostio’r awdurdod lleol ym Mhenhesgyn, naddion coed gan feddygon coed lleol, calchfaen mân o Ynys Môn a blawd gwymon mewn meintiau bychain. Caniateir yr holl ffynonellau gwrtaith hyn yn unol â safonau organig, yn ddibynnol ar rai darpariaethau penodol, y credwn ein bod yn eu bodloni:
● Dim ond yn y cyfeintiau sydd eu hangen i fodloni anghenion cnydau y defnyddir
gwrteithiau a gwelliannau eraill, ac fe’u hychwanegir yn y gwanwyn i leihau
trwytholchi.
● Caiff gwrtaith ei gompostio mewn tomennydd wedi’u gorchuddio am leiafswm o ddwy
flynedd er mwyn sefydlogi’r maetholion a sicrhau fod unrhyw weddillion agrocemegol
neu olion meddyginiaeth da byw wedi dadelfennu erbyn ei ychwanegu at ein tiroedd.
● I’r graddau y bydd hynny’n bosib, ein nod yw bwydo ein pridd a datblygu ecoleg y
pridd, yn hytrach nac ychwanegu addasiadau er mwyn bwydo cnydau fel y cyfryw.
● Dewis Hadau a Chnydau
Defnyddiwn gymysgedd o hadau sydd wedi eu cynhyrchu trwy ddulliau organig ac anorganig. Ar y cyfan, dim ond pan nad oes modd cael gafael ar hadau organig ar gyfer yr amrywiolion cnydau yr ydym am eu plannu y byddwn yn defnyddio hadau sydd heb eu cynhyrchu’n organig. Nid ydym yn defnyddio hadau sydd wedi eu trin gyda
ffwngladdwyr/plaladdwyr. (O fewn systemau organig ardystiedig, byddai angen i ni wneud cais am ganiatâd i ddefnyddio’r hadau anorganig – credwn y byddai hyn yn cael ei gymeradwyo, fel sy’n digwydd yn aml pan nad oes dewisiadau organig amgen ar gael).
● Defnydd o Danwyddau Ffosil a Rheoli Carbon
Ar hyn o bryd, rydym yn ddibynnol ar dractorau disel i wneud llawer o’r gwaith trwm ar y fferm. Fodd bynnag, mae ymateb mewn modd cadarnhaol i’r argyfwng hinsawdd ac ecoleg yn rhan fawr o’r hyn sy’n cymell holl aelodau cydweithredfa Tyddyn Teg yn ein gwaith, ac rydym yn gobeithio lleihau ôl troed carbon ein holl weithgareddau trwy:
- ○ Troi llai ar y tir lle bynnag y bydd hynny’n bosib, er mwyn lleihau ocsidiad deunydd organig yn y pridd, a lleihau’r defnydd o dractorau.
○ Defnyddio offer llaw ble bynnag y bo hynny’n bosib.
○ Defnyddio cyflenwr trydan adnewyddadwy.
Defnyddio tractorau cymharol fach, gyda defnydd tanwydd blynyddol o ychydig gannoedd o litrau yn unig.
● Defnydd o Blastigion Tafladwy
Ceir rhai sefyllfaoedd lle byddwn yn defnyddio cynhyrchion plastig tafladwy, gan nad oes opsiynau amgen da ar gael eto. Rydym yn ceisio lleiafu’r defnydd o blastigion tafladwy, ac i sicrhau, cyn belled ag y bo hynny’n bosib, y caiff ei ailgylchu neu’i gompostio. Mae’r defnydd mwyaf o blastig tafladwy fel a ganlyn:
● Crwyn y Twnelau Tyfu. Mae angen gorchudd polythen newydd ar dwnnel tyfu ar ôl rhyw ddeng mlynedd. Yn ystod ei fywyd, bydd y plastig (100-250kg y twnnel) wedi galluogi i ni dyfu tunelli lawer o gnydau, trwy gydol y flwyddyn, y byddid wedi gorfod eu mewnforio fel arall. Rydym yn cymryd gofal mawr i sicrhau fod y twnelau tyfu yn
gynhyrchiol er mwyn gwneud yn saff fod modd cyfiawnhau’r defnydd o blastig. Ar ddiwedd eu bywydau, byddwn yn anfon hen grwyn y twnelau tyfu at Gwynedd Skip Hire i’w hailgylchu.
● Pilen Atal Chwyn: Byddwn yn defnyddio dau fath – pilen daenu weëdig sy’n cadw’n hir, a philen defnydd untro. Defnyddir y daenfa sy’n cadw’n hir er mwyn gorchuddio llwybrau a’r ddaear o dan feinciau tyfu ac ati. Nid yw’n hawdd ei ailgylchu, ond ymddengys fod iddo fywyd hir iawn (pan fydd yn gwisgo drwodd, bydd angen iddo
fynd i safle tirlenwi neu ganolfan troi gwastraff yn ynni, ond nid ydym wedi gorfod cael gwared ar lawer hyd yma). Defnyddir y bilen untro i atal chwyn ymysg nionod, sydd yn anodd iawn eu tyfu ar raddfa fasnachol fel arall. Rydym yn defnyddio pilen bydradwy o blastig petrolewm a startsh corn, sy’n cael ei gymysgu i’r pridd i bydru unwaith y caiff y nionod eu cynaeafu. Fel arfer, dim ond ychydig gilogramau sydd eu hangen yn flynyddol.
● Pecynnu: Byddwn yn defnyddio rhywfaint o becynnu plastig er mwyn ymestyn oes storio ein llysiau, ac er mwyn i ni werthu cyfeintiau sydd wedi eu pwyso yn barod o bryd i’w gilydd. Mae gofyn am ddefnydd sy’n cadw lleithder wrth becynnu llysiau meddal, deiliog, sy’n gallu difetha o fewn ychydig oriau i’w cynaeafu hebddo. Mae’r bagiau plastig a ddefnyddiwn ar hyn o bryd yn cynnwys ychwanegyn sy’n sicrhau byddant yn pydru’n llwyr o fewn 2-5 mlynedd. Er bod hyn yn golygu na fyddant yn parhau yn ddiderfyn yn yr amgylchedd naturiol fel sbwriel neu ficroblastigion, pe cânt eu gollwng ar ddamwain, maent yn pydru’n rhy araf i’w hystyried yn ‘gompostadwy’ o fewn systemau compostio’r cartref neu’r cyngor. Ar hyn o bryd, byddem yn cynghori cwsmeriaid i gael gwared ar eu bagiau gyda gwastraff cyffredinol y cartref neu wrth ailgylchu bagiau plastig ble bo’r gwasanaeth hwnnw ar gael, megis mewn
archfarchnadoedd. Rydym yn cydnabod nad yw hyn yn ddelfrydol ac rydym yn edrych ar opsiynau eraill (gan gynnwys casglu bagiau i’w hailgylchu ein hunain; nid yw ailddefnyddio yn bosib oherwydd rhesymau hylendid bwyd). Rydym wedi arbrofi gyda nifer o ddeunyddiau pecynnu sydd wedi’u gwneud o blanhigion ac sy’n fwy
pydradwy, ond cawsom eu bod yn perfformio’n waeth o lawer (gan arwain at fwy o wastraff bwyd) neu eu bod yn sylweddol ddrytach. Hyd yma, felly, rydym wedi cadw at ein pecynnau presennol fel y cyfaddawd gorau, gan geisio peidio’u defnyddio oni bai fod hynny’n hanfodol.