Diddordeb mewn ymuno â’n cynllun bocsys llysiau?
Mae’r rhan fwyaf o gwsmeriaid ein cynllun llysiau yn dod i gasglu eu llysiau wythnosol o’n siop. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i chi ymweld â’n fferm hardd, yn ogystal â phrynu llysiau, ffrwythau a nwyddau sych ychwanegol o blith ein stoc, sydd yn newid ac yn tyfu’n gyson.
Os ydych yn dymuno ymuno â’n cynllun trwy gasglu eich llysiau o’n siop, cysylltwch â ni trwy e-bostio info@tyddynteg.com neu gysylltu â ni trwy glicio yma. Darllenwch isod os oes gennych ddiddordeb yn ein cynllun danfon nwyddau.
Ar hyn o bryd, rydym yn danfon i Lanberis, Waunfawr, Caernarfon, Llanfairfechan, Bethesda, Felinheli, Bangor a Phorthaethwy a’r ardaloedd cyfagos. Cysylltwch â ni i gael gwybod a ydych ar ein llwybr. Mae’n bosib y bydd modd i ni ddanfon atoch, hyd yn oed os nad ydych yn byw yn un o’r ardaloedd uchod.
Os ydych yn aelod cyfredol o’r cynllun sydd â diddordeb derbyn danfoniadau, e-bostiwch deliveries@tyddynteg.com
Os nad ydych yn aelod cyfredol o’r cynllun llysiau, a’ch bod â diddordeb ymuno â’n cynllun danfoniadau, llenwch y ffurflen isod:
Ffurflen i gwsmeriaid arfaethedig y cynllun danfon yn unig yw hon. Os oes gennych ddiddordeb casglu o’r siop, e-bostiwch info@tyddynteg.com i ymuno â’n cynllun.