Ymuno a Chyfranogi

Mae’n bwysig i ni ein bod yn cynnig cyfleoedd i bobl sydd â diddordeb ymwneud â chynhyrchiant bwyd lleol, cynaliadwy. Fel fferm fechan sy’n llwyddo i dyfu llysiau ar gyfer ein cymuned leol, rydym yn awyddus i rannu ein sgiliau fel y gall eraill wneud yr un fath a chychwyn ar eu prosiectau eu hunain – neu ddod yn rhan o’n un ni!

Field with a tractor being driven across it pulling a trailer, The field is being overlooked by snowdonia mountain range


Diwrnodau gwirfoddoli:

Mae’n bwysig gallu ymwneud â’ch system fwyd leol, ac i gymunedau gadw’r sgiliau sydd eu hangen i dyfu eu bwyd eu hunain! Am y rhesymau hyn, rydym yn awyddus i gynnig y cyfle i chi gael eich dwylo’n fudr a threulio diwrnod mewn cyswllt agos â’ch bwyd – yr holl ffordd o’r hedyn i’r plât! Fel arfer, byddwn yn cynnal diwrnod gwirfoddoli unwaith y mis. Rydym hefyd yn darparu cinio blasus wedi’i wneud o’r holl lysiau blasus y bu i chi dreulio eich diwrnod yn eu helpu i ffynnu.

Cynhelir ein diwrnodau gwirfoddoli ar ail ddydd Mawrth pob mis ar y cyfan, felly mae modd i
chi gynllunio ymlaen!

Ar hyn o bryd, rydym yn cynnal diwrnodau Gwirfoddoli ar bob dydd Mawrth. Piciwch draw am 10am gydag esgidiau cryfion – does dim angen i chi gofrestru. Allwn ni ddim aros i’ch cyfarfod chi!


Gwirfoddoli:

Mae gennym griw o wirfoddolwyr lleol, cyson sy’n dod i’n helpu ar y fferm yn rheolaidd. Os ydych yn lleol ac awydd dod i roi help llaw, rhowch waedd!

Cliciwch yma i ddarganfod sut i Gysylltu â ni


Hyfforddeion:

Nid ydym yn recriwtio hyfforddeion ar hyn o bryd.
Rydym yn cynnal hyfforddeiaeth chwe mis rhwng Ebrill a Medi, pryd y byddwn yn dewis criw o unigolion i weithio ar y fferm, gyda sesiynau hyfforddi wythnosol i ehangu eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad. Ymunodd pedwar o’n haelodau presennol trwy’r cynllun hyfforddeiaeth, ac aeth eraill yn eu blaenau i sefydlu eu prosiectau eu hunain neu
ymuno â phrosiectau eraill ym maes ffermio cynaliadwy a pharamaethu.