Y Tîm

Y Tîm – Dewch i’n nabod ni

Mae’r tîm hwn, sy’n dod â’u gwybodaeth ynghyd o gefndiroedd o bob math, yn
benderfynol o sicrhau fod Tyddyn Teg yn rhywle i’r gymuned.

Dyma gyflwyno:

Franklin: Mae Franklin, sydd â gradd PhD mewn gwyddorau pridd a chefndir mewn rheoli a datblygu cymunedol, yn hanfodol wrth reoli datblygiad ein hisadeiledd yn ogystal ag ymgymryd â mân swyddi a helpu i gydlynu’r hyn sy’n digwydd ar y fferm tra’n cadw llygad ar beth bynnag sydd angen ei wneud.

Simon: Yn dilyn arwain y gwaith o dyfu bwyd ac addysgu ar fferm ddinesig yn Nwyrain Llundain am 7 mlynedd, symudodd Simon i Dyddyn Teg er mwyn tyfu rhagor o lysiau blasus. Ei brif angerdd yw tyfu bwyd blasus ar gyfer ei gymuned, ac mae’n gwneud hynny trwy reoli’r caeau o gwmpas y fferm, a chymryd rhan mewn cyfathrebu â chwsmeriaid.

Alice: Mae Alice, sy’n meddu ar radd mewn ecoleg a gradd meistr ymchwil mewn gwyddorau pridd, yn addysgydd Paramaethu cofrestredig yn y DU gyda 10 mlynedd o brofiad ymarferol yn y Dwyrain Canol. Mae’n aml yn brysur dros ben yn rheoli’r twnelau tyfu, ond nid yw hynny yn ei rhwystro rhag arwain cyrsiau paramaethu a bod yn rhan o brosiectau addysgu eraill trwy gydol y flwyddyn!

Sally: Fel pennaeth y feithrinfa, Sally yw’r prif reswm fod gennym unrhyw gnydau i’w plannu allan! Hi sy’n gyfrifol am blannu, potio, dyfrio a rheoli ein cnydau ar adeg mwyaf cysetlyd eu bywydau. Mae hi hefyd yn aelod anhepgor o’r timau allan ar y caeau, ac yn neidio i gwblhau tasgau pan fydd cant a mil o bethau i’w gwneud yr un pryd.

Aglae: Gyda chefndir mewn prosiectau creadigol, roedd Aglae yn aml yn gweithio gyda chriwiau ffilm a theatr. Roedd yn canolbwyntio llawer ar fyd natur mewn ffilmiau, a’i harweiniodd yn esmwyth iawn i’r ochr fwy ymarferol i fyd natur, gan fod ganddi eisoes y sgiliau i weithio ar fferm gydweithredol. Mae’n rheoli’r siop a’r stoc yn ogystal â chwarae rhan amlwg yn ein gwaith cyfrifo a chyfathrebu â chwsmeriaid.

Jamie: Mae cefndir Jamie wrth astudio ecoleg a phatholeg planhigion yn ddefnyddiol iawn i Jamie, sy’n gyfrifol am y caeau mwy. Treuliodd nifer o flynyddoedd yn gwneud gwaith cadwraeth ym myd natur, yn garddio ac yn arlwyo, gan ei baratoi nid yn unig ar gyfer tyfu llysiau blasus, ond eu coginio hefyd! Mae Jamie hefyd yn mwynhau treulio’i amser sbâr yn trwsio a chynnal a chadw ein peiriannau.

Arthur: Mae Arthur yn aelod o’r tîm isadeiledd. Dyma waith sy’n cynnwys pethau fel trwsio’r ffordd, gweithio ar ddraeniad y fferm, gwaith cynnal a chadw ar yr adeiladau, cadw’r llwybrau cyhoeddus yn glir, a mwy! Mae ei obeithion ar gyfer y dyfodol yn cynnwys sefydlu ei eco- brosiect ei hun ar ddarn o dir yn Ffrainc. Mae ganddo gefndir ym meysydd gwyddor wleidyddol, ecoleg a choedwigaeth. Mae hefyd yn gweithio fel garddwr tirlunio. Mae’n angerddol dros y byd naturiol a’r cyfan sydd ganddo i’w gynnig i bobl chwarae ag o!

Charlotte: Ymunodd Charlotte â thîm Tyddyn Teg yn Ebrill 2021 fel aelod o’n tîm isadeiledd, danfon a digwyddiadau cymdeithasol. Mae ganddi gefndir ym meysydd garddio, tirlunio, arlwyo a dringo. Mae’n mwynhau natur amrywiol ei gwaith, sy’n cynnwys llawer o amser ar y digar bach, ond gydag elfennau mwy creadigol hefyd, megis paentio a gosod yr arwyddion newydd a chreu’r ffenestri lliw ar gyfer y siop. Mae hefyd yn un o’n gyrwyr cyfeillgar sy’n danfon nwyddau ar ddydd Iau!

Tom: Mae Tom, sy’n meddu ar MSc mewn Amgylchedd, Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Global, yn angerddol dros adeiladu rhwydwaith bwyd cynaliadwy yma yng Nghymru. Ei brif waith ar y fferm yw rheoli’r caeau a thyfu nifer o’r cnydau storio sydd gennym ar y fferm. Mae hefyd yn cydlynu’r tîm danfon ac yn un o’n gyrwyr sy’n danfon nwyddau!

Tilly: Yn dilyn cwblhau hyfforddeiaeth 2021 Cynghrair Gweithwyr y Tir, mae Tilly bellach yn aelod o dîm y fferm. Bu i’w phrofiad ym meysydd rhagnodi cymdeithasol ac iechyd cyhoeddus arwain ei diddordeb yng ngwaith Tyddyn Teg a thyfu bwyd. Mae wrth ei bodd yn gweithio yng ngwres y twnelau tyfu yn ystod yr haf, yn ogystal â chynaeafu rhewllyd misoedd y gaeaf. Mae’n angerddol dros allu gwneud gwaith ymarferol ac ystyrlon yng nghwmni criw gwych o bobl.

Aspen: Gyda chefndir ym meysydd y cyfryngau cymdeithasol a marchnata, mae gwaith Aspen yn ymwneud yn bennaf â gwaith gweinyddol, cyfrifon a phresenoldeb ar-lein Tyddyn Teg. Gan ei fod wedi astudio sŵoleg a chadwraeth yn y brifysgol, mae’n angerddol dros nod Tyddyn Teg o dyfu bwyd mewn modd cynaliadwy ac ochr yn ochr â bywyd gwyllt lleol.